Y Pwyllgor Busnes |
Meeting Venue: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2015 |
|
|||
Meeting time: |
08.30 - 08.36 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Minutes: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Committee Members: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Committee Staff: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Others in attendance: |
|
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 4 Mawrth 2015 –
· Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU (5 munud)
Dydd Mercher 18 Mawrth 2015
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4): Y Bil Troseddu Difrifol
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) yn ymwneud â'r Bil Troseddu Difrifol.
Rhoddodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd ei daith drwy'r Senedd. Oherwydd bod amser yn brin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, ac na ddylid ei anfon at un o bwyllgorau'r Cynulliad ar gyfer gwaith craffu.
Gan fod nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol diweddar heb gael eu cyfeirio at Bwyllgor, ac o gofio eu harwyddocâd yn gyfansoddiadol ac o ran polisi, cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn y dyfodol yn ysgrifennu at y pwyllgor perthnasol i'w hysbysu bod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei osod, ond heb gael ei gyfeirio ar gyfer gwaith craffu gan bwyllgor. Yn yr achos hwn, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac yn anfon copi at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2015.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 30: Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU
Trafododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu ynghylch Biliau Senedd y DU.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried gan y Cynulliad ddydd Mercher 4 Mawrth 2013.
Unrhyw Fater Arall
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Gweinidog Busnes y Llywodraeth wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ystyried y mater o amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol. Nododd y Llywydd nad oedd y Gweinidog yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor Busnes.